Yn Lles Rhieni Sengl, mae gennym ni gyfle cyffrous i bobl ifanc ledled Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe. Rydym yn recriwtio ar gyfer 12 o bobl ifanc i ymuno â'n Hacademi Gweithredu Ieuenctid 2025 - rhaglen wirfoddoli 8 mis ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed sydd â phrofiad o fod mewn cartref un rhiant. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw dydd Llun 17 Chwefror.
Mae'n rhaglen i ennill profiad gwirfoddol gyda phlant a phobl ifanc agored i niwed, cael hyfforddiant gan gynnwys hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn ogystal â chael cyfarfodydd i drafod anghenion y bobl ifanc rydym yn ymgysylltu â nhw.
Nod yr academi hon yw rhoi cyfle i bobl ifanc ein helpu i wella iechyd meddwl a lles plant o deuluoedd un rhiant.
Os oes gennych chi neu unrhyw un yr ydych yn ei adnabod ddiddordeb mewn darganfod mwy - dywedwch wrthynt am ddod i'n noson wybodaeth ar-lein i glywed beth mae'r rhaglen hon yn ei olygu. Cynhelir noson wybodaeth nos Iau 13eg Chwefror. 7-8pm.
Dolen i archebu lle ar gyfer ein cyfarfod gwybodaeth ar-lein yma - https://SingleParentsWellbeing.as.me/whatisYAA