Mae manteision ymuno gyda Chweched Bro Edern yn glir i bawb sydd ynghlwm wrth yr ysgol. Mae gennym staff ymroddgar, brwdfrydig a gwybodus. Maen nhw wedi profi llwyddiant gydag arholiadau TGAU ac maen nhw’n edrych ymlaen at ddysgu carfannau ymroddgar o ddisgyblion gweithgar yn y Chweched yn y blynyddoedd i ddod.
Er y twf aruthrol i ni, mae Bro Edern yn parhau i fod yn ysgol fach, o’i chymharu gydag ysgolion eraill. Bydd staff y Chweched yn medru rhoi sylw unigol i ddisgyblion; fe gânt eu dysgu mewn dosbarthiadau bychain gyda dysgu wedi’i deilwra’n arbennig. Mae ein staff mewn sefyllfa gref i gefnogi disgyblion drwy’r camau UCAS i baratoi ar gyfer bywyd prifysgol, gan gynnwys ysgrifennu geirda am ddisgyblion rydyn ni’n eu hadnabod mor dda.
Telephone : 02920 489445
Email - 6ed@BROEDERN
Address : Llanedeyrn Rd, Cardiff, CF23 9DT
Twitter : @BroEdern
Website : Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern