×
Cynlluniwch eich llwybr Teithio Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith Archwilio Cyfleoedd Blogiau Cysylltwch a Ni Amdanon Ni Creu Cyfle Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd Cyllid Chael eich dweud

Eich Dyfodol yn Dechrau Yma: Digwyddiad Prentisiaeth ac Addysg Cenedlaethol - Caerdydd

Eisiau darganfod eich cam nesaf ar ôl ysgol neu’r coleg? Yn pendroni beth sydd wir ar gael i chi ar ôl eich TGAU neu Safon Uwch? P’un a ydych yn chwilfrydig i blymio’n syth i waith, yn ystyried prentisiaeth, neu’n dal i bwyso a mesur os yw’r brifysgol yn addas i chi, mae’r Digwyddiad Prentisiaethau a Addysg Cenedlaethol - Cymru yn lle perffaith i archwilio’r posibiliadau.

 

Pryd a Ble:
📅 Dydd Mawrth 18 Chwefror 2025 | 9.30am - 3pm
📍 Stadiwm Dinas Caerdydd

Yn agored i fyfyrwyr 15+ a phobl ifanc, mae’r digwyddiad yma’n ymwneud â CHI a’ch dyfodol.

 

Pam Dylech Fynd:
Dychmygwch stadiwm gyfan yn llawn pobl yn barod i’ch helpu chi ddod o hyd i’ch llwybr gorau ymlaen. Cewch gysylltu â rhai o gyflogwyr, prifysgolion, colegau, a darparwyr hyfforddiant gorau’r DU, i gyd mewn un lle. Dyma gip sydyn ar yr hyn sydd i’w ddisgwyl:

 

 

Dewch â’ch Cefnogaeth
Mae croeso i’ch rhieni neu athrawon ymuno â chi—gall eu cael wrth law wneud archwilio opsiynau’n haws a’ch helpu i bwyso a mesur yr holl ddewisiadau.

 

Cewch Ysbrydoliaeth, Cewch Gysylltiad
Mae hyn yn fwy na sesiwn wybodaeth; dyma gyfle i ddod o hyd i ysbrydoliaeth, gweld eich opsiynau yn agos, a hyd yn oed gwrdd â phobl a allai fod yn rhan o’ch dyfodol. P’un a ydych yn sicr o’ch llwybr neu’n dechrau meddwl amdano, mae gan y digwyddiad hwn rywbeth i bawb.

 

Am ragor o fanylion, gallwch ddal i fyny â recordiad o’n digwyddiad diweddaraf gyda’r Gwasanaeth Cefnogaeth Ieuenctid yma: Gwasanaeth Cefnogaeth Ieuenctid #2 Digwyddiad Prentisiaethau Cenedlaethol

 

Archebwch eich lle: Cymru - Digwyddiadau Prentisiaethau a Addysg Cenedlaethol

 

Peidiwch â cholli’r cyfle i gymryd rheolaeth ar eich dyfodol!