Cynlluniwyd rhaglen Explore i helpu i feithrin hyder pobl ifanc; eu helpu i wella eu gwaith tîm, ac i adeiladu ar eu sgiliau datrys problemau a chyfathrebu a’u helpu i deimlo’n fwy parod ar gyfer mynd yn ôl i fyd addysg, neu i ennill camau tuag at gyflogaeth, hyfforddiant, neu gyfleoedd gwirfoddoli.
Bydd y rhaglen yn cynnwys cymysgedd o weithgareddau dan arweiniad ac awyr agored.
Mae’n rhaglen 4 wythnos AM DDIM sy’n cael ei chyflwyno o’n canolfan yng Nghaerdydd dros dri diwrnod yr wythnos.
Byddwn yn cynnal Diwrnod Blasu ar 19/2/2025 yn ein canolfan yng Nghaerdydd. Mae hon yn ffordd wych i bobl ifanc gwrdd â'r staff a darganfod ychydig mwy am y rhaglen.
Ar y Rhaglen Explore 4 wythnos hon, bydd y bobl ifanc yn cael cyfle i:
· Gweithio ar eu sgiliau personol a chymdeithasol ac ennill rhai sgiliau bywyd trwy ein cynllun hyder i deithio gyda Trafnidiaeth Cymru.
· Cymryd rhan mewn cymysgedd o weithgareddau i ennill sgiliau a fydd yn eu helpu ar eu llwybr i gyflogaeth, addysg neu wirfoddoli.
· Bydd sesiynau meithrin hyder a chyfathrebu yn helpu pobl ifanc i weithio gyda'i gilydd i ddatblygu eu sgiliau gwaith tîm a datrys problemau.
· Byddwn yn cynnal diwrnodau lles mewn natur a gweithgareddau Addysg Awyr Agored eraill ochr yn ochr â'n partneriaid darparu.
Yn ystod y rhaglen, bydd pobl ifanc yn cael cymorth gan ein harweinwyr datblygu ieuenctid a bydd ganddynt fynediad at hyd at 3 mis o gymorth pellach ar eu cyfer ar ôl y rhaglen, a all olygu bod pobl ifanc yn symud ymlaen i raglenni eraill Ymddiriedolaeth y Tywysog neu gymorth gan eu mentor eu hunain.
Dyddiadau Rhaglen: 4/3/2025 - 28/3/2025
Cymhwyster:
· Pobl Ifanc 16-25 oed sy'n NEET neu:
· Mewn addysg neu hyfforddiant am lai na 12 awr yr wythnos
· Mewn gwaith am lai nag 16 awr yr wythnos
Gwybodaeth Ychwanegol:
· Darperir cinio a lluniaeth gan Ymddiriedolaeth y Tywysog
· Darperir yr holl git ac offer.
· Gallu teithio i Gaerdydd – rydym wedi ein lleoli yng nghanolfan Ymddiriedolaeth y Brenin, 16 Galdames Place, Ocean Way, Caerdydd CF24 5PE.
· Gellir ad-dalu Teithio Cyhoeddus i'r ganolfan yn ddyddiol o'u cyfeiriad cartref.
· Ansicr ble rydym wedi ein lleoli? Gallwn drefnu i staff gwrdd â chi yng ngorsaf drenau ganolog Caerdydd ar gyfer y diwrnod blasu ac ar gyfer diwrnod cyntaf y rhaglen.
Cyfeirio Person Ifanc:
A Ymatebwch i’r e-bost hwn gyda manylion y person ifanc a chadarnhau bod y person ifanc wedi cydsynio ac yn hapus i gael ei atgyfeirio a llenwi’r ffurflen atgyfeirio atodedig.
Cadarnhewch os gwelwch yn dda: Enw llawn y person ifanc / rhif ffôn cyswllt gorau / rhif tŷ a chod post / dyddiad geni / cyfeiriad e-bost.
B Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni, drwy ein blwch post Walesoutreach@princes-trust.org.uk.