Mae ein cwrs Dechrau gyda Phêl-droed Merched mewn partneriaeth â JD Sports a Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn digwydd ym mis Mehefin 2025!
Rhaglen i Ferched yn unig yw hon (gan gynnwys y rhai sy'n uniaethu fel menywod) Ydych chi'n gweithio ar hyn o bryd gyda:
Merched nad ydynt mewn addysg amser llawn, cyflogaeth na hyfforddiant?
Merched a hoffai feithrin eu hyder a'u sgiliau cyfathrebu?
Cynhelir y rhaglen 5 diwrnod yn Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Parc y Ddraig, Casnewydd NP19 4RA.
Cwrs 5 diwrnod sy'n Canolbwyntio ar Ferched i ddatblygu sgiliau meddal, meithrin hyder, gwydnwch ac ennill gwybodaeth am iechyd a lles.
Ar gael i bob lefel gallu pêl-droed - nid oes angen profiad!
Ar y cwrs hwn byddwch hefyd yn:
• Dysgu sgiliau pêl-droed, cael hwyl a chwrdd â phobl newydd, gyda chefnogaeth lawn staff Ymddiriedolaeth y Brenin.
• Cael y cyfle i fynychu gêm UEFA Cymru yn erbyn yr Eidal.
• Cael y cyfle i ennill cymhwyster hyfforddi ar ôl y rhaglen.
Bydd staff Ymddiriedolaeth y Brenin ar y rhaglen i gefnogi pob person ifanc, i'w helpu i adeiladu ymhellach ar eu sgiliau personol a chymdeithasol, a chynnig cefnogaeth ar ôl y rhaglen.
Dyddiadau'r Rhaglen:
Diwrnod Blasu – Dydd Mercher 28 Mai. Yn rhithwir, Trwy Microsoft Teams.
Mae'r diwrnod blasu yn gyfle gwych i ddod i ddysgu mwy am y rhaglen. Sylwch fod yn rhaid i Bobl Ifanc fynychu'r Diwrnod Blasu i symud ymlaen i'r rhaglen.
Y rhaglen pum niwrnod - Dydd Llun 2il tan ddydd Gwener 6ed o Fehefin 2025 yn Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Parc y Ddraig, Casnewydd NP19 4RA.
Cymhwysedd:
• 16-30 oed, yn nodi fel benyw, heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant llawn amser.
Gwybodaeth Ychwanegol:
• Bydd costau teithio yn cael eu had-dalu a bydd cinio yn cael ei ddarparu tra byddwch ar y rhaglen.
Efallai y bydd modd darparu cit ac offer i bobl ifanc sydd eu hangen.
Sut i Atgyfeirio Person Ifanc:
Os hoffech fynychu'r Diwrnod Blasu neu atgyfeirio person ifanc i'r rhaglen, (bydd angen i ni siarad â'r person ifanc i wirio eu cymhwysedd ac i'w sefydlu ar ein system gyfrifiadurol i fonitro eu hymholiad) Er mwyn ein galluogi i wneud hyn, a allwch chi ymateb i'r e-bost hwn.
Os gallwch ofyn i'ch person ifanc hefyd lenwi'r ffurflen broffil trwy'r ddolen isod, byddai hynny'n wych.
https://forms.office.com/e/QHdSisqw7H
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni, drwy ein blwch post Walesoutreach@kingstrust.org.uk neu os hoffech sgwrsio am unrhyw beth yn yr e-bost hwn, mae croeso i chi gysylltu â Natasha yn uniongyrchol ar 07773 002867
Os gallech chi gylchredeg y cyfle hwn i'ch tîm ehangach, neu unrhyw bobl ifanc y teimlwch y byddent yn elwa o'r rhaglen hon, byddai hynny'n wych.
Ydych chi'n derbyn ein cylchlythyr ar hyn o bryd? Hoffech chi glywed mwy am raglenni sydd ar y gweill gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog, cliciwch ar y ddolen a chofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! https://princes-trust-digital.co.uk/p/7LPB-16B/newsletter-sign-up-wales